Thursday, April 7, 2011

Rhaglen 2011

Ebrill 19: Hawl i Holi gydag Awen Haf yn y Ganolfan am 7.30. Noson i ddod â’ch problemau garddio i’w datrys gan Awen Haf.

Mai 17: Ymweliad â chanolfan tyfu llysiau a mân lysiau drwy ddulliau hydroponics. Cyfle i ddysgu am ddulliau di-bridd o arddio, llysiau mân/meddyginaethol a thyfu pysgod. I gyd o dan yr un to! Cyfarfod o flaen Canolfan Felinwnda am 6.00 i rannu ceir. Pryd o fwyd ar y ffordd yn ôl.

Mehefin 21: Sgwrs am dirlunio gan Carol Williams (cyn gyflwynydd Clwb Garddio a chyfranwr rheolaidd i Radio Cymru) yn y Ganolfan am 7.30.
Oes gennych chi broblem ynglyn â be i’w blannu mewn mannau penodol o’r ardd? Anfonwch lun(.jpg) gyda disgrifiad o’r safle, a natur y pridd, cysgod coed, cyfeiriad y gwynt a.y.y.b. Byddaf yn ei anfon ymlaen i Carol. Bydd hithau yn dewis un neu ddau addas ac yn paratoi cynllun ar gyfer y safle/oedd. Rwyf wedi cael rhai yn barod felly ewch ati rhag blaen!

Gorffennaf 19: Ymweld â phatch Russel yn Rhosgadfan.

Awst 14 (Sul cynta’ ar ol yr Eisteddfod): Marchnad codi arian i Eisteddfod Eryri. Rhag temtio siawns o ran y tywydd, byddwn yn ei chynnal yn y Ganolfan.

Medi 17, 2yp: Ymweliad â Pherllan/Gwinllan Pant Du ym Mhenygroes.

Hydref 19: Swper pentymor? Aelodau i benderfynu os am drefnu swper ‘diolchgarwch’ gan ddefnyddio cynnyrch ein gerddi!

Manylion cyswllt:
01286-830615 (Osborn), 01286-830913 (Marika), clwbgarddio[AT]yahoo[DOT]com.