Wednesday, January 31, 2018

Rhaglen 2018 Clwb Garddio Felinwnda

20 Mawrth: Sioned Edwards, Garddio a Mwy, yn trafod tyfu a gosod blodau. 7.30yh, Canolfan Bro Llanwnda.

17 Ebrill: Planhigion traddodiadol a seiat garddio. 7.30yh, Canolfan Bro Llanwnda.

15 Mai: Ymweliad â gerddi Plas Tan y Bwlch yng nghwmni Twm Elias.

19 Mehefin: Noson yng nghwmni Carol Williams. 7.30yh, Canolfan Bro Llanwnda.

Dydd Sul, 8 Gorffennaf: Ymweliad â Gardd Goedwig Bangor, sydd yn dathlu 20 mlynedd eleni.

Awst: Marchnad y garddwyr.

18 Medi: Gwledd diwedd tymor a dathlu penblwydd y Clwb yn 10 oed.

Croeso mawr i aelodau hen a newydd. Gallwch ymaelodi am y tymor am £10, neu mae croeso i ymwelwyr am £2 y sesiwn. Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (01286-830615) neu Marika (01286-830913).

Saturday, August 12, 2017

Ymweliad â Plas yn Rhiw

Bydd Clwb Garddio Felinwnda yn mynd ar daith i Blas yn Rhiw ar bnawn dydd Mercher, 23 Awst. Mi gawn olwg o gwmpas yr ardd yng nghwmni'r garddwr, ac wedyn bydd cyfle am banad a chacen yng nghaffi'r Plas. Cyfarfod am 3yp wrth dderbynfa Plas yn Rhiw, neu am 2yp wrth Ganolfan Bro Llanwnda os am rannu car. Mae tâl mynediad y Plas yn £5.20 y pen. Manylion pellach: 01286-830913 neu 01286-830615.

Friday, June 30, 2017

Newidiadau i raglen y tymor

18 Gorffennaf, 7.30yh: "Rhannu a Chynhyddu" gydag Awen Haf, Canolfan Bro Llanwnda.

23 Awst: Ymweliad â gardd, manylion i'w cadarnhau.

19 Medi: Gwledd o gynnyrch ein gerddi, Canolfan Bro Llanwnda.

Sunday, March 19, 2017

Canslo cyfarfod 21 Mawrth 2017

Yn anffodus roedd rhaid i ni ganslo cyfarfod mis Mawrth am resymau teuluol. Bydd y tymor felly'n cychwyn efo cyfarfod mis Ebrill.

Saturday, March 11, 2017

Rhaglen 2017

21 Mawrth, 7.30yh: "Arwyr garddwriaethol" gyda Gerallt Pennant, Canolfan Bro Llanwnda.

18 Ebrill, 7.30yh: "Plannu mewn lle anodd" gyda Carol Williams, Canolfan Bro Llanwnda.

13 Mai, 10.30yb: Sbecian tu ôl i'r llenni yng nghanolfan arddio'r Frongoch.

20 Mehefin, 7.30yh: "Coed" gydag Emyr Parry, Canolfan Bro Llanwnda.

18 Gorffennaf: Ymweliad â gardd, manylion i'w cadarnhau.

15 Awst, 7.30yh: Hawl i holi gydag Awen Haf, Canolfan Bro Llanwnda.

19 Medi: Gwledd o gynnyrch ein gerddi, Canolfan Bro Llanwnda.

Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth ydy £10 am y tymor neu £2 y sesiwn. Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (01286-830615) neu Marika (01286-830913).

Saturday, February 4, 2017

Gerallt Pennant yn agor tymor 2017

Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 21 Mawrth 2017, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Gerallt Pennant fydd y siaradwr gwadd, ac mi fydd yn trafod arwyr y byd garddio.

Bydd gweddill y tymor yn cynnwys sesiwn "Hawl i holi" gydag Awen Haf, "Plannu mewn lle anodd" gyda Carol Williams , "Coed" gydag Emyr Parry a mwy. Bydd y Clwb hefyd yn cael cyfle i sbecian tu ôl i'r llenni yng nghanolfan arddio'r Frongoch.

Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth ydy £10 am y tymor neu £2 y sesiwn.

Friday, September 9, 2016

Marchnad arddwyr er budd ffoaduriaid

Nos Sadwrn, 17 Medi 2016, bydd Clwb Garddio Felinwnda yn cynnal marchnad arddwyr er budd prosiectau ffoaduriaid. O 6.30yh ymlaen bydd cynnyrch ffres gerddi a cheginau aelodau'r clwb ar werth yng ngardd Tŷ'n Llan, Llandwrog. Bydd elw’r farchnad yn mynd at ddau brosiect ffoaduriaid, sef y mudiad lleol Pobl i Bobl a gwesty'r City Plaza yn Athen.

Sefydlwyd Pobl i Bobl gan unigolion a ddaeth ynghyd er mwyn ymateb i argyfwng ymfudo 2015. Nod Pobl i Bobl yw dangos cefnogaeth a chynnig cymorth o Gymru i bobl sy wedi’u dadleoli, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu lleoliad. Mae Pobl i Bobl wedi bod yn dosbarthu rhoddion gan unigolion yng Ngogledd Cymru i Wlad Groeg, Gogledd Ffrainc ac i Syria ei hun, ac mae gwirfoddolwyr Pobl i Bobl wedi teithio i sefyllfaoedd argyfyngus ar hyd a lled Ewrop.

Mae gwesty’r City Plaza yn cynnig lle i ffoaduriaid sy’n caniatáu preifatrwydd, mewn awyrgylch o ddiogelwch ac urddas. Meddiannwyd y gwesty ym mis Ebrill 2016 gan grŵp o ymgyrchwyr sydd bellach yn rheoli bywyd bob dydd yn y gwesty ar y cyd â’r ffoaduriaid. Nid oes cefnogaeth gan y wladwriaeth. Ond mae yna fwyd da, coridorau glân, fferyllfa a lle trin gwallt yn ogystal â gwersi iaith, llyfrgell a chefnogaeth gyfreithiol. Caiff pob dim ei gynnal ar sail gwirfoddol a thrwy roddion. A mi gaiff yr holl benderfyniadau eu gwneud ar y cyd.

Am fanylion pellach ffoniwch 01286-830913/830615 neu e-bostiwch clwbgarddio AT yahoo DOT com.