Tuesday, September 24, 2013

Gwledd er budd Cymdeithas Alzheimer

Ar nos Fawrth, 17 Medi 2013 cynhaliodd Clwb Garddio Felinwnda noson gymdeithasol i aelodau a'u ffrindiau. Cawsom wledd o gynnyrch ein gerddi, bwrdd ffeirio planhigion a raffl. Noson hyfryd a gododd £200 i Gymdeithas Alzheimer. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn ymuno รข'r Clwb y 2014, dowch draw i Ganolfan Bro Llanwnda ar nos Fawrth, 15 Hydref, pan fyddwn yn llunio rhaglen y tymor nesaf, a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn. Manylion pellach oddi wrth Osborn (01286-830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.