Saturday, February 6, 2016

Tymor newydd yn cychwyn ar 22 Mawrth 2016

Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 22 Mawrth 2016, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Mi fydd Awen Haf yn cyflwyno syniadau am forderi blodau lluosflwydd. Derbynnir cwestiynau ymlaen llaw - gyrrwch nhw aton ni erbyn 15 Mawrth os gwelwch yn dda, fel y caiff Awen ddigon o amser i ddod ag ateb gwerth-chweil i chi.

Dyma raglen y tymor i gyd:
22 (!) Mawrth: Awen Haf yn cyflwyno syniadau am forderi blodau lluosflwydd. Derbynnir cwestiynau ymlaen llaw.
19 Ebrill: Hawl i holi - llysiau a phopeth arall y gellir ei fwyta! Cadeirydd: Alun Roberts (Alun Gelli). Derbynnir cwestiynau ymlaen llaw.
17 Fai: Dowch â'ch basged neu bot i'w llenwi o dan gyfarwyddyd Carol Williams.
21 Mehefin: Cynllunio gerddi i bobl â dementia gyda Mark Rendell.
19 Gorffennaf: Ymweliad â gerddi aelodau.
16 Awst: Lladron llysiau a blodau - beth gafodd ei ddal gan y camera bywyd gwyllt yn ystod y tymor. Cyfarwyddwr: Huw Orwig.
30 (!) Medi: Gwledd i ddathlu 10mlwyddiant Canolfan Bro Llanwnda.

Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol (sylwer mai eithriad ydy mis Mawrth!). Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth ydy £10 am y tymor neu £2 y sesiwn.

Ym mhob un o'r sesiynau bydd cyfle i gyfnewid hadau, planhigion, torion ayb sy dros ben gan aelodau. Fel arfer mae rhywun yn falch o'u cael nhw!

Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (01286-830615), Marika (01286-830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.