Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 21 Mawrth 2017, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Gerallt Pennant fydd y siaradwr gwadd, ac mi fydd yn trafod arwyr y byd garddio.
Bydd gweddill y tymor yn cynnwys sesiwn "Hawl i holi" gydag Awen Haf, "Plannu mewn lle anodd" gyda Carol Williams , "Coed" gydag Emyr Parry a mwy. Bydd y Clwb hefyd yn cael cyfle i sbecian tu ôl i'r llenni yng nghanolfan arddio'r Frongoch.
Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth ydy £10 am y tymor neu £2 y sesiwn.