Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 17 Mawrth 2015, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Mi gawn noson hawl i holi gyda'r pencampwr tyfu llysiau, Medwyn Williams. Os oes gynnoch chi gwestiwn, gyrrwch o aton ni erbyn 10 Mawrth os gwelwch yn dda, fel y caiff Medwyn ddigon o amser i ddod ag ateb gwerth-chweil i chi.
A dyma raglen y tymor i gyd:
- 17 Mawrth: Hawl i holi gyda Medwyn Williams
- 21 Ebrill: Tyfu ffrwythau meddal gydag Awen Haf
- 19 Mai: Tyfu planhigion o dorrion gyda Menna Davies - dowch â thorrion i'w cyfnewid
- 16 Mehefin: Offer garddio - trafodaeth am offer handi a sut i'w cynnal a'i cadw
- 21 Gorffennaf: Ymweld â gerddi aelodau
- 18 Awst: Rysetiau - trafodaeth am bethau blasus i'w gwneud allan o gynnyrch eich gerddi
- 15 Medi: Y wledd flynyddol o gynnyrch ein gerddi
- Ryw ben ym mis Medi neu Hydref (dibynnu ar gynnydd y grawnwin): Helpu gyda'r cynhaeaf yng ngwinllan Pant Du
- 20 Hydref: Paratoi rhaglen 2016
Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth ydy £10 am y tymor neu £2 y sesiwn.
Ym mhob un o'r sesiynau bydd cyfle i gyfnewid hadau, planhigion, torion ayb sy dros ben gan aelodau. Fel arfer mae rhywun yn falch o'u cael nhw!
Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (01286-830615), Marika (01286-830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.