Tuesday, August 5, 2014

Noson Tatws Sarpo - 19 Awst, Canolfan Felinwnda, 7.30.

Noson i drafod tatws - yn arbennig rhai'r Brifysgol sef y math 'Sarpo'. Yn eich profiad chi - pa rai yw 'goreuon' y tymor? Pryd y planwyd nhw, pryd y codwyd nhw, maint y gwlydd, maint y cnwd, afiechydon, blas etc. Os dymunwch, dewch a sampl o'ch tatw, does dim angen mwy na dwy neu dair. Dewch â llun os y cafwyd crach neu unrhyw afadwch arall. Cawn hefyd sgwrs rownd y bwrdd i drin a thrafod yr ardd yn gyffrerdinol.
Mis Medi - sgwrs am winllan Pant Du;
Mis Hydref - ein swper blynyddol i orffen y tymor.

Monday, February 3, 2014

Tymor 2014 yn cychwyn ar 6 Mawrth

Cafodd Clwb Garddio Felinwnda dymor diddorol iawn yn 2013, a da oedd cael croesawu cymaint o aelodau newydd, yn hen ac ifanc! Yn ogystal â dysgu trwy wrando ar arbenigwyr y byd garddio, cafwyd ymweliadau â gerddi rhai o'r aelodau. Gerddi amrywiol iawn, ond pob un fel ei gilydd yn adlewyrchiad o ddiddordebau amrywiol y garddwyr. Mentrodd rhai o'r Clwb i Sioe Tatton ar y trip blynyddol. Sioe gwerth chweil fel arfer ond co' da am orfod ciwio am oriau i gael mynediad! Mae rhaglen digon diddorol wedi'i llunio ar gyfer tymor 2014 eto. Ar nos Iau, 6 Mawrth 2014 byddwn yn croesawu Dafydd Wigley i agor y tymor. Noson o rannu profiadau, gyda Dafydd yn llywio'r drafodaeth, i bwrpas helpu aelodau newydd a rhai mwy profiadol fel ei gilydd. Yn ogystal byddwn yn rhannu tatws hadyd o'r math 'Sarpo', sydd wedi cael eu datblygu ym Mhrifysgol Bangor fel tatws sy'n gwrthsefyll y malltod ('blight'). Croeso cynnes i bawb ymuno â ni, ac un ai dalu fesul noson neu am y tymor cyfan. Ar y drydedd nos Fawrth o'r mis cynhelir y cyfarfodydd o fis Ebrill ymlaen, pan ddaw Awen Haf (Galwad Cynnar) i sôn am berlysiau. Mae Awen yn hen ffefryn gan y Clwb, ac mae ei sgwrs yn ddifyr a buddiol bob amser. Dyma'r mis i rannu gwreiddiau, cymeryd torion, rhannu 'plygiau' a hadau o bob math. Ym mis Mai ceir noson dipyn yn wahanol wrth wahodd Nici Beech draw i sgwrsio am y rhaglen deledu 'Byw yn yr Ardd'. Atgofion am uchel-fannau'r gyfres ac ambell dro trwstan y tu ôl i'r camera! Ym Mehefin a Gorffennaf, trefnir ymweliadau i fwy o erddi'r aelodau. Ymunwch â'r criw ar y teithiau diddorol yma. Ym mis Awst bydd cyfle i ymweld â Sioe Flodau Amwythig . Ceir sgwrs am winllannau Pant Du ym mis Medi, a bydd y tymor yn dirwyn i ben ym mis Hydref gyda gwledd o gynnyrch y tymor yng Nghanolfan Felinwnda. Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com. A chofiwch fwrw golwg ar golofn 'digwyddiadau' papur Lleu am wybodaeth am ddigwyddiadau'r mis!

Tuesday, September 24, 2013

Gwledd er budd Cymdeithas Alzheimer

Ar nos Fawrth, 17 Medi 2013 cynhaliodd Clwb Garddio Felinwnda noson gymdeithasol i aelodau a'u ffrindiau. Cawsom wledd o gynnyrch ein gerddi, bwrdd ffeirio planhigion a raffl. Noson hyfryd a gododd £200 i Gymdeithas Alzheimer. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Clwb y 2014, dowch draw i Ganolfan Bro Llanwnda ar nos Fawrth, 15 Hydref, pan fyddwn yn llunio rhaglen y tymor nesaf, a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn. Manylion pellach oddi wrth Osborn (01286-830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.

Thursday, January 24, 2013

Tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda

Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 19 Mawrth 2013, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Thema'r noson fydd "Planhigion cyd-fanteisiol (companion planting)" efo Mr Allan Evans, Cyffordd Llandudno. Rydym yn edrych ymlaen at gael dysgu am lysiau a blodau sy'n manteisio ar gwmni ei gilydd. Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd. Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn Jones (01286-830615), Marika Fusser (01286-830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.

Monday, August 13, 2012

Gardeners' Market 2012

Our annual gardeners' market will be held on Sunday, 19 August, 10.30am-12.30 at Canolfan Bro Llanwnda. It will be an opportunity to buy fresh produce from the gardens, workshops and kitchens of Llanwnda Gardening Club members, including vegetables, plants and seeds, crafts and all kinds of delicacies. Light refreshments will be also available. Proceeds will go to Canolfan Bro Llanwnda. All welcome. For details ring Osborn on 01286-830615 or e-mail clwbgarddio AT yahoo DOT com.

Marchnad Garddwyr 2012

Cynhelir ein marchnad garddwyr flynyddol ar fore Sul, 19 Awst, 10.30yb-12.30 yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Bydd yn gyfle i brynu cynnyrch ffres gerddi, gweithdai a cheginau aelodau Clwb Garddio Felinwnda, yn cynnwys ffrwythau a llysiau, planhigion a hadau, crefftau a danteithion o bob math. Bydd paned a chacen ar gael hefyd. Bydd elw'r farchnad yn mynd at Ganolfan Bro Llanwnda. Croeso cynnes i bawb! Am fanylion ffoniwch Osborn ar 01286-830615 neu e-bostiwch clwbgarddio AT yahoo DOT com.

Tuesday, February 14, 2012

Tymor newydd y Clwb Garddio

Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 20 Mawrth 2012, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda gyda phanel o arbenigwyr profiadol fydd yn ateb eich cwestiynau am dyfu llysiau. Bydd croeso mawr i aelodau newydd.
Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae rhaglen eleni'n cynnwys tips tyfu blodau gyda Carol Williams, ymweliad â gardd Llys y Gwynt yn Llandygai, sgwrs gan OP Huws am y prosiect lleol sy'n tyfu a marchnata chokeberries, ymweliad â meithrinfa llwyni addurniadol Penrhos Bach, a'r farchnad garddwyr boblogaidd ym mis Awst. Bydd hefyd gyfle i rannu hadau, planhigion bach ayb.
Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn Jones (01286-830615), Marika Fusser (01286-830913) neu clwbgarddio [AT] yahoo.com