Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Clwb y 2014, dowch draw i Ganolfan Bro Llanwnda ar nos Fawrth, 15 Hydref, pan fyddwn yn llunio rhaglen y tymor nesaf, a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn. Manylion pellach oddi wrth Osborn (01286-830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Tuesday, September 24, 2013
Gwledd er budd Cymdeithas Alzheimer
Ar nos Fawrth, 17 Medi 2013 cynhaliodd Clwb Garddio Felinwnda noson gymdeithasol i aelodau a'u ffrindiau. Cawsom wledd o gynnyrch ein gerddi, bwrdd ffeirio planhigion a raffl. Noson hyfryd a gododd £200 i Gymdeithas Alzheimer.
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Clwb y 2014, dowch draw i Ganolfan Bro Llanwnda ar nos Fawrth, 15 Hydref, pan fyddwn yn llunio rhaglen y tymor nesaf, a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn. Manylion pellach oddi wrth Osborn (01286-830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Clwb y 2014, dowch draw i Ganolfan Bro Llanwnda ar nos Fawrth, 15 Hydref, pan fyddwn yn llunio rhaglen y tymor nesaf, a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn. Manylion pellach oddi wrth Osborn (01286-830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Thursday, January 24, 2013
Tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda
Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 19 Mawrth 2013, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Thema'r noson fydd "Planhigion cyd-fanteisiol (companion planting)" efo Mr Allan Evans, Cyffordd Llandudno. Rydym yn edrych ymlaen at gael dysgu am lysiau a blodau sy'n manteisio ar gwmni ei gilydd.
Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd.
Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn Jones (01286-830615), Marika Fusser (01286-830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Monday, August 13, 2012
Gardeners' Market 2012
Our annual gardeners' market will be held on Sunday, 19 August, 10.30am-12.30 at Canolfan Bro Llanwnda. It will be an opportunity to buy fresh produce from the gardens, workshops and kitchens of Llanwnda Gardening Club members, including vegetables, plants and seeds, crafts and all kinds of delicacies. Light refreshments will be also available. Proceeds will go to Canolfan Bro Llanwnda. All welcome.
For details ring Osborn on 01286-830615 or e-mail clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Marchnad Garddwyr 2012
Cynhelir ein marchnad garddwyr flynyddol ar fore Sul, 19 Awst, 10.30yb-12.30 yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Bydd yn gyfle i brynu cynnyrch ffres gerddi, gweithdai a cheginau aelodau Clwb Garddio Felinwnda, yn cynnwys ffrwythau a llysiau, planhigion a hadau, crefftau a danteithion o bob math. Bydd paned a chacen ar gael hefyd. Bydd elw'r farchnad yn mynd at Ganolfan Bro Llanwnda. Croeso cynnes i bawb!
Am fanylion ffoniwch Osborn ar 01286-830615 neu e-bostiwch clwbgarddio AT yahoo DOT com.
Tuesday, February 14, 2012
Tymor newydd y Clwb Garddio
Bydd tymor newydd Clwb Garddio Felinwnda yn cychwyn ar nos Fawrth, 20 Mawrth 2012, 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda gyda phanel o arbenigwyr profiadol fydd yn ateb eich cwestiynau am dyfu llysiau. Bydd croeso mawr i aelodau newydd.
Cynhelir cyfarfodydd y clwb am 7.30yh ar drydedd nos Fawrth y mis yng Nghanolfan Bro Llanwnda oni bydd trefniadau gwahanol. Mae rhaglen eleni'n cynnwys tips tyfu blodau gyda Carol Williams, ymweliad â gardd Llys y Gwynt yn Llandygai, sgwrs gan OP Huws am y prosiect lleol sy'n tyfu a marchnata chokeberries, ymweliad â meithrinfa llwyni addurniadol Penrhos Bach, a'r farchnad garddwyr boblogaidd ym mis Awst. Bydd hefyd gyfle i rannu hadau, planhigion bach ayb.
Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn Jones (01286-830615), Marika Fusser (01286-830913) neu clwbgarddio [AT] yahoo.com

Saturday, August 20, 2011
Wedi codi £700 i'r Urdd
Mae ein marchnad garddwyr wedi codi £700 at Eisteddfod yr Urdd 2012. Diolch i bawb wnaeth gyfrannu!
Monday, August 8, 2011
Marchnad y Garddwyr 2011
Cynhelir marchnad garddwyr ar ddydd Sul, 14 Awst, 10yb-1yp yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Cyfle i brynu cynnyrch ffres gerddi, gweithdai a cheginau aelodau Clwb Garddio Felinwnda, yn cynnwys ffrwythau a llysiau, planhigion a hadau, crefftau a danteithion o bob math. Bydd paned a chacen ar gael hefyd. Elw at Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012. Manylion: 01286-830640 neu 830615.
Subscribe to:
Posts (Atom)