Wednesday, August 11, 2010
Gardeners' Market
Dinas, Llanwnda (near Siop Antur Eryri)
Sunday morning 15th August,
10.00am - 1.00pm
Buy fresh home and garden produce from Clwb Garddio Felinwnda including eggs and vegetables donated by Russel (Byw yn yr Ardd)
a.. Potatoes, carrots, beetroot, beans, chillies, peppers, cucumbers and tomatoes
b.. Lettuces of many varieties, lavender, mint, oregano etc.
c.. Fresh flowers for the home
d.. Russell's fresh eggs, cakes, jam and chutneys .... and lots more that you just can't find in Tesco or Spar!!
Organiser Sian Jones : 01286 830615
Publicity : Marika Fusser 01286 830913/Osborn Jones 01286 830615
All profits donated to the Eisteddfod yr Urdd and the Royal Agricultural Show appeal
Marchnad Garddwyr
Bore Sul 15fed o Awst
10.00am – 1.00pm
Cyfle i brynu cynnyrch gardd a chartref aelodau Clwb Garddio Felinwnda, ynghyd â rhoddion o wyau a chynnyrch y 'patch'gan Russell (Byw yn yr Ardd).
a.. Tatws, moron, betys, ffa, chilis, pupur, ciwcymerau a thomatos
b.. Letys o bob math, lafant, mint, oregano
c.. Blodau ar gyfer y ty
d.. Wyau ffresh Russell, cacennau, jam a chytnis ...... a llawer llawer mwy na ellir eu prynu mewn na Thesco na Spar!!
Trefnydd Sian Jones : 01286 830640
Cyhoeddusrwydd : Marika Fusser 01286 830913/Osborn Jones 01286 830615
Elw er budd Eisteddfod yr Urdd Eryri a chronfa'r Sioe Amaethyddol Frenhinol
Monday, May 17, 2010
Atebion Awen i'ch cwestiynau
Ateb: Tydi 7 wythnos ddim yn hir mwen blwyddyn garddio! Ond mae rhai pethau y gallem hau, ma'i braidd yn ben set ond mae'n debygol y byddai Clarkia, Godetia a Chlarkia yn dod gan ei bod mor barod i egino, fe fydd hi'n tynu at amser hau blodau gwyllt, a pethau fel "Giliflwars" ond maen anodd gwerthu pot sy'n edrych yn wag! Beth am raniadau o blanhigion gwanwyn sydd wedi blodeuo, briallu a ballu, neu raniadau oddiar glympiau sefydlog o Fint neu Lemon Balm, wedi torri darn bach i ffwrdd, ai botio, ei dorin ol, a fe ddaw tyfisnt ffresh mewn 7 wythnos. Oes planhigion wedi hunan hau tros yr ardd? Gallwn godi ac ail botio rheini! Fe fydd had hefyd yn setio ar flodau'r ardd fe allwn ei cynhaeafu, (ee. Het hen wraig,) ai labelu "Het Hen Wraig o ardd Awen yn Bethel, Piws." i bersenoleiddio'r had, fe fydd yn fwy o destyn sgwrs o leiaf. Hefyd ffordd dda o werthy "Glwt" or ardd os oes gormod o datws, tomatos, gan gofio enwi'r math eto i adio at y diddordeb, neu salad, hefyd mae galw am dusw hen ffasiwn o flodau, Sweet Peas a sweet willian, Chrysanths a ballu. Neu cynyrch yr ardd jam, chytni? Hen bacedi had?
Cwestiwn: Dwi wedi cael 3 coeden afal yn anrheg ac wedi eu plannu ddiwedd Mawrth. Mae 'na lot o fale bach i'w gweld yn dod arnyn nhw. Fase hi'n well eu tynnu nhw 'leni er mwyn i'r coed gryfhau, neu ydi hi'n iawn eu gadael nhw i ddatblygu?
Ateb: Bysa'. Mae cynhyrchu afal, yn cymeryd tipyn o egni a nerth o'r goeden ifanc, a trwy dynnu'r afalau bach y flwyddyn gyntaf rydych yn galluogi'r goeden i fagu mwy o nerth at y flwyddyn ddilynol, fe fydd hi'n debygol o ddatblygu system wreiddiaua brigau cryfach, ac yn sgil hyn fe fydd hi'n gallu gwrthsefyll afiechydon fel Scab yn well. Yn yr ail flwyddyn
mae teneuor ffrwyth yn syniad da iawn, ac os na wnewch chi, i fod y onest fe wneith hi hyn ei hyn! Y "June Drop" ydi'r enw am y broses pan mae coed ffrwyth yn gyffredinol yn gollwng canran or ffrwyth, os oes gormod wedi ffurfio, trwy wneud hyn mae'r goeden yn gwarchod ei hyn rhag straen gormodol, clyfar iawn!
Pwyntiau eraill sydd werth cofio a choed ffrwyth newydd, RHAID sicyrhau nad yw glaswellt yn tyfu at fonyn y goeden yn y blynyddoedd cynnar, gan bo' glaswellt yn farus iawn ac yn debygol o ddwy maeth a dwr odd wrth y goeden, trwy rhoi mulsh da o gompost neu hen deil o amgylch y bonnyn yn yr hydref fe allwch dori lawr ar dyfiant y glaswellt a bwydor goeden tros y gaeaf. Hefyd os oes tyfiant yn dod o islawr mark Grafft, torwch hwn i ffwrdd, fe fydd yn dwyn maeth or prif goeden, rydw i wedi "ffeindio" bo hyn yn fwy o broblem mewn coed eirin. Dyfrio, mewn blynyddoedd sych fel hon, mae dyfrio yn bwysig, ond dyfrion dda pob hyn a hyn, dim ychydig bob dydd, trwy adael yr hos, wrth fonyn y goeden ar "dricl", neu hydynoed hen bwced a thwll ynddi'n diferu, rydym yn sicyrhau bod y dwr yn treiddio yn dyfn ir ddaear a hybu'r gwreiddiau i wneud yr un peth.
Cwestiwn: Sut mae tocio rosmari'n iawn fel fod o'n gwneud llwyn call - ac yn hapus wrth gwrs.
Ateb: Mae'r ateb yma hefyd yn wir am Lafant! Fe fydd angen o leiaf dau dorriad y flwyddyn, un toriad yn y gwanwyn pan mae'r llwyn yn dechrau dangos tyfiant ffres, ac wedyn tua mis Medi , fe fydd hyn yn hybu'r llwyn i dyfu'n drwchus a chlos, ac yn atal "gwagio" yn y cannol. Rydym yn anelu at dorriadau arwynebol i fod yn onest, ni ddaw yr un o'r ddwy yn ol yn llwyddianus o doriadau i'r hen bren. Cofiwch y gallwch wreiddio'r toriadau, neu ei sychu i'r gegin. Trwy osgoi
bwyd a llawer o nitrogen ynddo gallwn osgoi gor dyfiant gwan, a fe fuasai calch pan yn planu hefyd o fodd.
Cwestiwn: Mae gennai wahanol fylbiau yn yr ardd sydd wedi gorffen blodeuo bellach. Rwyf wedi torri'r pennau er mwyn iddynt beidio â chynhyrchu had, ond sut ddylwn ddiogelu'r bylbiau a'u cryfhau ar gyfer y tymor flwyddyn nesaf?
Ateb: Y peth pwysicaf un ydi gofalu peidio a torri'r dail yn ol, tan ei bod wedi marw yn ol ac yn "bapurog" (wedi iddynt droi fel papur cewch ei tynu neu ei tori i ffwrdd)Tra maent yn marw yn ol fe fuasai gwasgaru "Bone Meal" oi cwmpas yn fendithiol iawn, gan bo hwn yn hybu datblygiad gwraidd/ bylb. Nid oes angen codi'r bylbiau, gan bo'r bylbiau yn gallu datblygu'n well yn y pridd, ac trwy ei codi fe fyddent yn colli ychydig o'i "reserves" wrth sychu.
Wrth gwrs, os ydir bylbiau wedi bod yn yr un fan ers blynyddoedd ac yn dechrau gwanio oherwydd ei bod yn mygu ei gilydd, fe fasai'n well ei codi, ei rhanu, ac ei ail blannu rwn, gan ychwanegu tipyn o gompost fres a Bone meal ir fan ail blanu. Os ydir blodeuo wedi bod yn wan iawn fe fuasai "Sulphate of Potash" o fodd.
Cwestiwn: Mae gen i flodyn Amaryllis bendigedig. Beth ydy'r ffordd orau i gadw bylb er mwyn sicrhau sioe debyg y flwyddyn nesaf?
Ateb: Wedi blodeuo mae angen torri'r blodyn i ffwrdd, dim yr holl fonnyn blodeuo, mae'n well gadael iddo farw'n ol yn naturiol. Yna cario ymlaen i'w ddyfrio ac ei fwydo trwy'r haf, fe fydd angen iddo fod mewn man a digon o haul, mae hi'n bosib ei roi y tu allan mewn man cysgodol wedi i'r rhew basio, ond maent yn demptasiwn mawr i wlithod. At ddiwedd yr haf mae angen lleihau'r dyfrio fel bo'r dail yn troi'n felyn a marw yn ol, pan y maent wedi crino mae angen ei docio ac ei symyd i fan oer di-rew, wedi 3 mis cychwyn y dyfrio a bwydo eto ac ei roi mewn man gola, o fewn 6 wythnos o ail gychwyn y sylw dylai flodeuo! Dyma'r cyngor swyddogol, on rydw i wedi gweld un mewn lolfa haul yn cadw ei ddail trwy'r haf a blodeuo'n wych heb gael y cyfnod gorffwys!
Cwestiwn: Mae gennym ni Agapanthus ers rhai blynyddoedd ac rydwi'n sylwi fod tua 15 'pen' arno eleni. Tybed a oes posib ei 'rannu' rywsut? Os oes, pryd yw'r amser gorau?
Ateb: Mae hi'n bosib rhannu y bylbiau, y cyfnod gorau fyddai yn ystod y cyfnod gorffwys a ddisgrifiais uchod, sydd yn glanio tua Mehefin i gychwyn Awst fel rheol, os ydy'r planhigyn yn wyrdd drwy gydol y flwyddyn, 'dw i'n meddwl mai amser yma y baswn i'n ei drio fo, gan ei fod yn llai tebygol o amharu ar y blodeuo, er fe gymerith hi gryn amser i'r planhigyn ddod ar ei hyn oherwydd yr amhariad ar ei wreiddiau. Mae Amaryllis, Hippeastrum, yn tueddu i glwmpio, ac mae clwstwr da ohonynt mor drawiadol, oes rhaid ei rannu?
Cwestiwn: Azaleas - mi brynais 3 azalea fechan llynedd. Beth sydd angen ei wneud o ran bwydo / dyfrio 'leni?
Ateb: Y peth pwysicaf un ydy'r dyfrio yn enwedig y gwanwyn yma, gan ei bod mor sych. Fe fyddai dos o fwyd addas i blanhigion "Ericaceous" o fodd hefyd i gefnogi'r planhigyn trwy'r cyfnod blodeuo. Mae hi werth nodi bod Azalea, Camelia a Rhododendrons yn cychwyn setio eu blagur at ddiwedd yr haf, ac os oes ganddoch rai mewn potiau mae'r adeg hon yn allweddol gan os sychant allan bryd yma ni fydd blagur at y gwanwyn nesaf.
Cwestiwn: Mi brynais 'blygiau' ciwcymbr a tsili yn Fron Goch a'u trawsblannu a'u rhoi mewn ty gwydr oer. Beth ydy'r tymheredd isaf fedr rhain ddioddef? Mae ambell i noson go oer o hyd!
Ateb:
Tymhereddau isaf:
Ciwcymbr : 60 F/15-6 C
Tsili: 64 F/ 18 C - er 'dw i wedi cario rhai trosodd a thymheredd nos tipyn is.
Tomato: 55 F /10-13 C - eto, mae fy nhomatos i yn y ty gwydyr oer ers sbel rwan, mae'r tymheredd dydd yn gallu taro 30 C, a'r nos mor isel a 5 C, tydw i heb sylwi ar broblem mawr, roedd hi'n fater o gael cydbwysedd rhwng lefelau golau (a oedd braidd rhy isel ar silff ffenest y gegin) a'r tymheredd.
Mae'r tymheredd llawer pwysicach pan yn cysidro'r ciwcymbr, maen nhw llawer mwy sensitif, ac mae'n werth nodi'r tymheredd yma, hefyd mae hi werth cysidro pryd yr ydych yn dyfrio, mae'n gas ganddynt eistedd mewn compost oer gwlyb tros nos, felly llawer gwell dyfrio yn y bore.
Cwestiwn: Roedd hefyd gwestiwn am syt i gael gwared o frwyn mewn gardd gan Sian Bwlan.
Ateb: Nid oes gen i brofiad o hyn yn bersonol, ond fe grybwyllwyd bod triniaeth ar gael i ffermwyr, nid yw hwn ar gael yn Fron Goch ac fe fuasai werth efallai cael sgwrs a staff siop fferm. Tu hwnt i ddraenio (!!) neu palu nhw allan (!!!) eu torri'n rheolaidd a bwydo'r lawnt (!!!!), nid oes gen i ateb sydd llawer o help. Sorri.
Cwestiwn sydd wedi codi ei ben yn aml yn ddiweddar yn y siop yn Fron Goch: Mae fy llwyn wedi troi'n felyn tros y gaeaf sut galla i ei droi yn wyrdd eto?
Ateb: Symptom o lwgu ydy hyn. Os ydy'r planhigyn yn "ericaeous" fel Camelia, Rhododendron neu'u tebyg fe fydd angen ei drin o Sulphate of Iron, neu Sequestered Iron, mae gwahanol ffyrdd o'i ddefnyddio ac fe fydd wedi ei egluro ar y paced, os yw'n son am chwistrellu, ac mae'r dail a sglein iddynt mae hi werth rhoi diferyn o sebon golchi llesti yn y chwistrellydd i helpu'r driniaeth lynnu ar y dail. Os nad ydir llwyn yn un "ericaceous" megis llawrwydden mae hi angen dos dda o nitrogen! Mae Miracle-Gro arferol yn ffordd sydyn i drin y problem, ond fe fydd angen dilyn y driniaeth a bwyd "Slow release", un ai'r perlau bach 'na neu "Fish Blood and Bone" - ceisiwch osgoi bwyd a gormod o botash ynddo gan bod hynnu'n amharu ar y broses "gwyrddio".
Friday, April 2, 2010
Rhaglen tymor 2010
16eg am 7.30 Canolfan Felinwnda yng ngofal Osborn Jones
"Cyfrinachau John Innes a sut i brofi pridd a'i wella"
Awen Haf yn ateb eich cwestiynnau
Dewch ag unrhyw hadau sbar sydd gennych i'w ffeirio!
Mis Ebrill
20ed am 7.30 Canolfan Felinwnda yng ngofal Will Aaron
"Noson yng ngwmni'r gwenynwyr" gwr gwadd Dylan Huw Jones
Awen Haf yn ateb eich cwestiynnau
Dewch a rhywbeth i'w ffeirio!
Mis Mai
18fed - Trip i Glanllynnau Chwilog yng ngofal Osborn Jones
Cyfarfod o flaen Canolfan Felinwnda am 6.30yh i rannu ceir i Glanllynnau, neu 7.00 yng Nglanllynau (dros ffordd i'r Parc Bwyd ac Amaeth ar y ffordd o Lanystymdwy am Bwllheli)
"Compostio biniau brown y Cyngor" sgwrs gan Mr Parry Glanllynnau
Swper i ddilyn yn y Madryn Arms, Chwilog
Bydd cyfle i drafod atebion Awen i gwestiynau'r mis dros swper
Mis Mehefin
15fed - am 7.30 Canolfan Felinwnda yng ngofal Alwena a Marika
"Blasu salad gwahanol wledydd" Mae angen gwirfoddolwyr i wneud y gwahanol salad.
Awen Haf yn ateb eich cwestiynnau
Dewch a rhywbeth i'w ffeirio
Gorffennaf 13fed, 7yh
Ymweliad a gardd Plas Cefn Coed, Llanfaglan
Mis Awst
Bore Sul 15.
"Marchnad y Garddwyr" Hen Garej Dinas yng ngofal Sian Jones, Bwlan
Cyfle i werthu cynnyrch y tymor i godi arian at elusen leol
Mis Medi
21ain am 7.30 Canolfan Felinwnda yng ngofal ?????????
"Steddfod Domatos a Salad" noson o hwyl diwedd tymor
Awen Haf yn ateb eich cwestiynnau
Dewch a rhwybeth i'w ffeirio!
************************************************************************
Cyfarfod ar drydedd nos Fawrth y mis am 7.30yh yng Nghanolfan Bro Llanwnda (os na fydd trefniadau gwahanol).
Tal aelodaeth : £10 y tymor (Cesglir yn ystod y tri cyfarfod cyntaf). Ymwelwyr : £3 y noson.
Friday, April 10, 2009
Rhaglen 2009
Os na hysbysir yn wahanol.
Sgyrsiau byr yn cael eu dilyn gan sesiwn ymarferol gyda Awen Haf
7fed Ebrill
'Denu bywyd gwyllt i'r ardd' - Sian Jones (Bwlan)
8fed Mai
'Arch-fwydydd (Super-foods) - 'Rhith neu realiti' - Malcolm Jones (Rhedynog)
2ail Mehefin
'Pam fod Saeson yn siarad Saesneg ac nid Lladin?!'- Osborn Jones (Gwernafalau)
10fed o Orffennaf
Noson arbennig : 'Steddfod Datws Newydd'! - Noson o hwyl cymdeithasol
* Cystadleuaeth blasu tatws newydd
* Cyflwyno cywydd newydd ' Y blincin bleit!' gan T P ac I Prys * Baled newydd sbon gan Bencerdd Glan-Gwyrfai * Limrigau, englynion digri a straeon trwstan byd garddio * Lluniaeth a phaned
Trip y tymor - Sioe Flodau Amwythig 14/15 fed o Awst (Gwener/Sadwrn)
Dydd Llun Awst 31ain ein Sioe
Medi neu Hydref : Noson arbennig - 'Afalau lleol Cymru'
Croesawir eich awgrymiadau bob amser!
Tuesday, July 1, 2008
Tymor Newydd y Clwb Garddio!
- Cystadleuaeth blasu tatws newydd
- Cyflwyno darn newydd sbon o farddoniaeth ' Y blincin bleit!' gan T P ac I Prys
- Baled newydd sbon gan Bencerdd Glan-Gwyrfai
- Limrigau, englynion digri a straeon trwstan byd garddio
- Lluniaeth a phaned
Canlyniadau'r Sioe Arddio a lluniau!
(sgroliwch i lawr i weld popeth / scroll down to see everything)
Enillwyr y Prif wobrau .
Coginio - tocyn £50 i'w wario ym Mwyty Rhiwfallen.
Rhoddedig gan Cymen Cyf. Enillydd Meryl Jones Caer Loda
Llysiau - tocyn £20 i'w wario yn Fron Goch.
Rhoddedig gan Fron Goch Enillydd Robin Gruffydd Llanwnda
Blodau - tocyn £20 i'w wario yng Ngerddi Seiont Nurseries.
Rhoddedig gan Erddi Seiont Nurseries Enillydd Enid Edwards Llanwnda
Ffrwythau £20 Enillydd Dafydd Griffiths Llanfaglan
Adran y Plant - tocyn teulu gwerth £19 i fynd ar Reilffordd Llyn Llanberis.
Rhoddedig gan Reilffordd Llyn Llanberis Cyf. Enillydd Owain Humphreys Llanfaglan
Celf a Chrefft - 2 botel o wîn. Rhoddedig gan Bee Robotics Ltd Enillydd Emyr Parry Llandwrog
Dyma ychydig luniau o'r eitemau. (Nifer y lluniau yn ddibynnol ar maint o le sydd i'w gael ar y wefan)!Fe newidir y rhain o dro i dro.





Dyma restr yr enillwyr
Llysiau / Vegetables
Tysen Menna Jones Llanwnda
Nionyn - Robin Gruffydd Llanwnda
Cenhinen - Robin Gruffydd Llanwnda
Teulu bresych - Robin Gruffydd Llanwnda
Betysen - Vera Wyn Jones
Moron - Robin Gruffydd Llanwnda
ffa dringo - Robin Robin Gruffydd Llanwnda
ffa Ffrengig - Alwena Owen
Maro - Dafydd Williams Talysarn
Tomato - Trefor Prydderch Llandwrog
Casgliad o ddail salad - Arthur Wyn Groeslon
Casgliad o wahanol lysiau - Robin Gruffydd Llanwnda
Casgliad o berlysiau - Osborn Jones Llandwrog
Casgliad o’r tŷ gwydr - Vera Wyn Jones Llandwrog
Blodau / Flowers
Daliah - Gwern Aran Morus
Casgliad o Ddahlias – Rhian Owen Llandwrog
Pen pys per - Alun Roberts Caernarfon
Rhosyn / Roses - Grant Peisley ac Emma Squires (cydradd gyntaf)
Pen blodyn Hydrangea - Menna Jones Llanwnda
Amrywiaeth o flodau gardd mewn llestr - Menna Davies Llandwrog
Planhigyn llestr mewn blodau - Alun Roberts Caernarfon
Gosodiad blodau - Enid Edwards Llanwnda
Ffrwythau / Fruits
Rhiwbob - Vera Wyn Jones, Llandwrog
Afal bwyta - Trefor Prydderch Llandwrog
Afal coginio - Rhian Owen Llandwrog
Mafon - W.C Hughes, Groeslon
Grawnwin - Dafydd Griffiths, Llanfaglan
Cynnyrch Cegin / Kitchen Produce
Wyau - Glesni Jones Llandwrog
Caws lemon – Iola Medi Caernarfon
Pot o jam - Glesni Jones Llandwrog
Pot o chutney – Eleri Evans Llandwrog
Bara brith - Iona W Thomas Pontrug
Sbwng Fictoria - Gwen a Morus Pontllyfni a Meryl Jones Caer Loda(Cydradd)
Celf a Chrefft / Arts & Crafts
1 Darlun wedi ei baentio - Osborn Jones Llandwrog
1 Tirwedd (llun camera) - Tim Walker Caeathro
1 Cerflun o goed neu fetel - Emyr Parry Llandwrog
1 Cerdyn cyfarch - Rhian Williams
1 Unrhyw grefftwaith arall - Aelwen Jones Caernarfon
Adran i blant i fyny i ddeg oed
Creu anifail wrth ddefnyddio llysiau o siâp od – Nedw Prys Caernarfon
1 Cacen fwd wedi ei haddurno - Owain Humphreys Llanfaglan