Monday, August 8, 2011

Marchnad y Garddwyr 2011

Cynhelir marchnad garddwyr ar ddydd Sul, 14 Awst, 10yb-1yp yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Cyfle i brynu cynnyrch ffres gerddi, gweithdai a cheginau aelodau Clwb Garddio Felinwnda, yn cynnwys ffrwythau a llysiau, planhigion a hadau, crefftau a danteithion o bob math. Bydd paned a chacen ar gael hefyd. Elw at Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012. Manylion: 01286-830640 neu 830615.