Friday, September 9, 2016

Marchnad arddwyr er budd ffoaduriaid

Nos Sadwrn, 17 Medi 2016, bydd Clwb Garddio Felinwnda yn cynnal marchnad arddwyr er budd prosiectau ffoaduriaid. O 6.30yh ymlaen bydd cynnyrch ffres gerddi a cheginau aelodau'r clwb ar werth yng ngardd Tŷ'n Llan, Llandwrog. Bydd elw’r farchnad yn mynd at ddau brosiect ffoaduriaid, sef y mudiad lleol Pobl i Bobl a gwesty'r City Plaza yn Athen.

Sefydlwyd Pobl i Bobl gan unigolion a ddaeth ynghyd er mwyn ymateb i argyfwng ymfudo 2015. Nod Pobl i Bobl yw dangos cefnogaeth a chynnig cymorth o Gymru i bobl sy wedi’u dadleoli, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu lleoliad. Mae Pobl i Bobl wedi bod yn dosbarthu rhoddion gan unigolion yng Ngogledd Cymru i Wlad Groeg, Gogledd Ffrainc ac i Syria ei hun, ac mae gwirfoddolwyr Pobl i Bobl wedi teithio i sefyllfaoedd argyfyngus ar hyd a lled Ewrop.

Mae gwesty’r City Plaza yn cynnig lle i ffoaduriaid sy’n caniatáu preifatrwydd, mewn awyrgylch o ddiogelwch ac urddas. Meddiannwyd y gwesty ym mis Ebrill 2016 gan grŵp o ymgyrchwyr sydd bellach yn rheoli bywyd bob dydd yn y gwesty ar y cyd â’r ffoaduriaid. Nid oes cefnogaeth gan y wladwriaeth. Ond mae yna fwyd da, coridorau glân, fferyllfa a lle trin gwallt yn ogystal â gwersi iaith, llyfrgell a chefnogaeth gyfreithiol. Caiff pob dim ei gynnal ar sail gwirfoddol a thrwy roddion. A mi gaiff yr holl benderfyniadau eu gwneud ar y cyd.

Am fanylion pellach ffoniwch 01286-830913/830615 neu e-bostiwch clwbgarddio AT yahoo DOT com.